Mae Llong Mor-ladron yn dod
Mae Gwalia yn gweithio gyda Chwarae Iawn i ddarparu cynlluniau chwarae'r haf hwn.
Chwarae Iawn yw’r gymdeithas chwarae ar gyfer Abertawe, Castell-Nedd a Port Talbot. Maent yn frwdfrydig dros gyflenwi cyfleoedd chwarae mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw neu ond ychydig ddarpariaeth chwarae. Mae prosiectau Chwarae Iawn i gyd yn ddibynnol ar gyllid ac eleni mae Ymddiriedolaeth Tai Gwalia wedi rhoi arian i gael cynlluniau chwarae yn y Llong Môr-ladron mewn pedwar ardal yn Abertawe a Sir Gaerfyrddin.
Mae’r cynllun chwarae yn agored i bob plentyn a pherson ifanc rhwng 5 a 15 oed sy’n byw yn yr ardal. Bydd rhaid i oedolyn ddod gyda phlentyn o dan 8 oed.
Mae chwarae yn bwysig iawn i blant am mai dyma’r ffordd maent yn dysgu amdanynt eu hun a’r byd o’u cwmpas. Maent yn cael y cyfle i arbrofi a dysgu trwy wneud camgymeriadau, yn union fel y gwnaethant wrth ddysgu cerdded. Gall y chwarae fod yn fawlyd (peintio dwylo, ymladd gyda dŵr a gwaith llaw) ac mae’r plant yn medru ymlacio a mwynhau eu hunain. Mae gweithwyr chwarae Chwarae Iawn yn brofiadol a hyfforddedig ac yn deall sut i hwyluso chwarae a arweinir gan blant, mewn ffordd ddiogel, i alluogi eich plentyn i wneud y gorau o’u profiadau chwarae.
Dyma ble fydd y Llong Môr-ladron:
Ffordd y Bryn, Gelli Fedw 12-4pm 26 – 30 Gorffennaf 2010
Parc Pendre, Cydweli 12-4pm 2, 3, 5 a 6 Awst 2010
Edison Crescent, Clydach 12- 4pm 9-13 Awst 2010
Parc Penrhiw, Betws 12- 4pm 16 – 20 Awst 2010







