Amdanom Ni
Mae Tai Cymdogaeth yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sydd yn gofrestredig gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Rydym yn ymroddedig i ddarparu tai a chefnogi pobl sydd ag amgylchiadau personol sy'n cyfyngu ar ddewis ac yn eu rhwystro rhag byw yn annibynnol yn y gymuned. Rydym yn falch o'r gwasanaeth a ddarparwn sydd o ansawdd uchel ac yn ddibynadwy, effeithiol a gofalgar.
Mae Tai Cymdogaeth yn cynnig tenantiaid gwasanaeth rheoli a thai cynhwysfawr o ansawdd da, a gaiff ei ddarparu gan staff hyfforddedig, sy'n gweithio mewn timau arbenigol i ddarparu'r cyngor a chefnogaeth gorau.
- Mae'r Uwch Dîm Rheoli yn cynnig arweiniad strategol, cefnogaeth weithredol a monitro safonau i denantiaid Tai Cymdogaeth, staff a Grwp Gwalia Cyf, parthed darpariaeth ac ansawdd gwasanaethau tai.
- Mae'r Tîm Cartref Newydd yn cynnig gwasanaeth gosodiadau o ansawdd uchel ar gyfer y cwsmer, ac yn darparu cyngor a chefnogaeth ymhob mater sy'n ymwneud â gosod eiddo, ymgartrefu tenantiaid yn eu cartref newydd a nodi a chyflawni anghenion cefnogaeth.
- Mae'r Tîm Rheoli Incwm yn cynnig gwasanaeth proffesiynol ynglyn â rheoli arian a chyngor a chefnogaeth am incwm rhent, taliadau gwasanaeth, costau llys a mân ddyledion eraill, budd-daliadau tai a lles.
- Mae'r Tîm Rheoli Tenantiaeth yn cynnig gwasanaeth arbenigol uchel parthed rheoli stadau, torri tenantiaeth, niwsans, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac aflonyddwch.
- Mae'r Tîm Gwasanaethau i Bobl Hyn yn cynnig gwasanaeth profiadol ac arbenigol, parthed rheoli tai a gwasanaethau i bobl dros 55 mlwydd oed, sy'n cynnwys tai gwarchod.
- Mae Asiantaeth Gofal Ychwanegol Tai Cymdogaeth yn darparu gofal cartref 24 awr i breswylwyr Llys y Werin, Gorseinon a Phlas y Môr, Porth Tywyn, i'w galluogi i gadw eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain am mor hir â phosibl.
Gwasanaethau Ychwanegol:
- Gweithiwr Lles Shelter Cymru i roi cyngor annibynnol am fudd-daliadau tai a lles.
- Cyfreithiwr mewnol.
Am restr cysylltiadau mwy manwl o fewn Tai Cymdogaeth a Grwp Gwalia Cyf ewch i'r dudalen Cyfarfod â'r Staff.



