Sylwadau, Canmol a Chwyno

Cynllun Adborth Cwsmer

"Os cysylltwch â Tai Cymdogaeth am unrhyw reswm neu os cawsoch eich effeithio gan unrhyw beth a wnawn - rydych chi’n un o’n cwsmeriaid."

Mae Tai Cymdogaeth yn eich annog i roi eich sylwadau i ni, am eu bod yn dangos pa mor dda fyddwn ni’n gweithredu. Ceisiwn ddarparu gwasanaethau o safon dda i’n cwsmeriaid i gyd ond gall pethau fynd o chwith. Os ydynt, mae angen i ni wybod er mwyn i ni wneud pethau’n iawn ac i ddysgu a gwella. Mae eich cwynion yn dangos i ni beth sydd efallai wedi mynd o le neu beth sydd angen i ni wella ac mae eich canmoliaeth yn rhoi gwybod i ni beth a wnawn yn gywir.

Mae’r wybodaeth hon yn bwysig iawn i ni: mae’n helpu i ni sicrhau bod ein gwasanaethau yn effeithlon ac effeithiol ac yn sicrhau eich bod yn cael gwasanaeth cwsmer da. Am fwy o wybodaeth medrwch ddarllen ein Polisi Adborth Cwsmer (PDF 100KB)

Cwblhewch y ffurflen ar-lein a’i cyflwynwch ar unwaith i roi gwybod eich barn i ni neu ffoniwch ein Swyddog Adborth Cwsmer ar 01792 488288 i ofyn am ffurflen.

 
Noder: 
Gellir trin â rhai cwynion mewn ffyrdd arall:
Mae ein Tîm arbenigol Rheoli Tenantiaethau yn trin â chwynion ynghylch:
  • cymdogion
  • sŵn a phlant yn chwarae
  • parcio
  • anifeiliaid
  • sbwriel
  • cerbydau wedi cael eu gadael
  • problemau ar ystadau

I gysylltu â nhw, medrwch:
  • ffonio 01792 488288 i siarad â’r Swyddog Tîm Rheoli Tenantiaeth ar ddyletswydd
Os yw eich cwyn ynghylch Gofal Cartref gan weithiwr Gofal Ychwanegol Tai Cymdogaeth, medrwch gysylltu:
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Uned C, Cam 3
Pentref Busnes Tawe
Ffordd Phoenix
Parc Menter Abertawe
Abertawe
SA7 9LA
Ffôn: 01792 310420
cssiw.southwest@wales.gsi.gov.uk

Adeiladau’r Llywodraeth
Heol Picton
Caerfyrddin
SA31 3BT
Ffôn: 01267 245160
Ffacs: 01267 245140
 
Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.