Coffrau Cyhoeddus

A oes gennych chi syniad am brosiect i wella eich cymuned?

Sefydlwyd y Coffrau Cyhoeddus i ddarparu grantiau o hyd at £500 i grwpiau o breswylwyr neu breswylwyr unigol er mwyn iddynt drefnu digwyddiadau i alluogi preswylwyr o wahanol ardaloedd i gyfarfod a cheisio datblygu ysbryd cymdogol.

Mae Panel y Coffrau Cyhoeddus sy'n cynnwys 5 preswyliwr a benodwyd gan y Bartneriaeth Preswylwyr, yn asesu'r ceisiadau am gyllid. Ar hyn o bryd mae gennym gyllideb o £8,500 ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2008- Mawrth 2009. Felly, beth am drefnu digwyddiad ar gyfer eich cymuned chi?

Pwy all wneud cais?

I fod yn gymwys i wneud cais, dylid:

  • trefnu digwyddiad i gynnwys tenantiaid a phreswylwyr Tai Cymdogaeth
  • sicrhau bod y prif drefnydd o'r digwyddiad yn denant neu breswyliwr Tai Cymdogaeth
  • darparu erthygl fer a llun oddi wrth y trefnwyr ar gyfer News 'n' Views (medrwn eich helpu gyda'r erthygl)
  • cyfrif am yr holl arian a wariwyd - gan gynnwys derbyniadau

Peidiwch â gofidio os nad ydych chi wedi trefnu digwyddiad o'r blaen, byddwn yn eich cefnogi trwy roi gwybodaeth a hyfforddiant am y canlynol:

  • gofyn am syniadau pobl
  • cadw cyfrif o'r arian
  • paratoi amserlen
  • nodi peryglon a lleihau eu heffaith
  • cael pobl i gyfranogi
  • hysbysebu eich digwyddiad

Sut i wneud cais

I wneud cais am gyllid bydd angen i chi lenwi ffurflen gais gan roi'r rhesymau paham y dylech chi neu eich grup gael yr arian.

Am wybodaeth lawn am y Coffrau Cyhoeddus ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â Amanda Roberths (Gweithiwr Cyswllt Cymunedol) ar 01792 460609 / 07816 937468.

Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.