I roi Terfyn i'ch Tenantiaeth

I derfynu eich tenantiaeth, dylech ysgrifennu at Lynne Murphy, Ymgynghorydd Symud Tŷ. Yn y llythyr, mae'n bwysig eich bod yn:

  • Rhoi eich enw llawn a'ch cyfeiriad presennol
  • Rhoi pedair wythnos o rybudd - byddwn yn dal i godi rhent os na fyddwch yn rhoi'r pedair wythnos angenrheidiol o rybudd.
  • Arwyddo'r llythyr - ni fedrwn dderbyn rhybudd i derfynu eich tenantiaeth a arwyddwyd gan unrhyw un arall heblaw chi
  • Sicrhau os oes gennych gyd-denantiaeth, bod y ddau ohonoch yn arwyddo'r llythyr
  • Cynnwys eich cyfeiriad newydd
Mae gennym hefyd Ffurflen Terfynu eich Tenantiaeth a fedrwch ddefnyddio, trwy argraffu'r ffurflen yn y fformat pdf isod, ei chwblhau a’i dychwelyd at ein Hymgynghorydd Symud Tŷ.

Darganfyddwch sut i gael £100 drwy ein Cynllun Cymhelliant i Denantiaid.

Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.