Proses Gwneud Cais
Ar ôl derbyn eich Ffurflen Gais
Byddwn yn gwirio'r wybodaeth rydych wedi ei ddarparu ac yn ystyried eich:
- Anghenion tai
- Ardal ddewisedig & math o eiddo
- Anghenion cefnogaeth
Byddwn yn gofyn am eirda gan eich landlord blaenorol, os ydych ar hyn o bryd, neu yn flaenorol, wedi bod yn denant
- Cymdeithas tai neu
- Cyngor
CAEL EICH DERBYN AR EIN RHESTR AROS
Pan fydd eiddo addas yn dod ar gael, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad cartref neu swyddfa, ac os yn bosibl, trefnu i chi weld yr eiddo.
Rydym yn adolygu ein Rhestr Aros yn rheolaidd, ac os ydych chi'n cael Llythyr Adolygu, mae'n bwysig iawn eich bod yn ei ateb.
Pwy fedrwn ni dderbyn?
Mae gan Tai Cymdogaeth restr aros agored ar gyfer tai. Anogir unrhyw un i wneud cais drwy gwblhau ffurflen gais. Yn anffodus, ni allwn ystyried gosod rhai pobl. Am fwy o wybodaeth ynglyn â hyn, cyfeiriwch at ein polisi Gosodiadau, Newidiadau Tenantiaeth a Rheoli Cartrefi Gwag.



