HomeSwapper
Efallai bydd angen i chi symud yn y dyfodol, os yw eich amgylchiadau’n newid. Mae cyfnewid trwy gytundeb yn golygu eich bod yn 'newid' eich cartref gyda thenant arall. Bwriad y gwasanaeth yw eich helpu i ddarganfod rhywun sy'n barod i gyfnewid â chi.
Mae Tai Cymdogaeth wedi cychwyn partneriaeth â HomeSwapper i ddarparu gwasanaeth rhad ac am ddim ar gyfer tenantiaid sy'n ceisio symud.
Beth yw HomeSwapper?
Mae HomeSwapper yn eich galluogi i ddarganfod eich cyfnewid trwy gytundeb delfrydol, trwy chwilio am leoedd tebyg gyda miloedd o denantiaid eraill ar draws y DU. Mae HomeSwapper yn hawdd i'w ddefnyddio ac mae'n medru dod o hyd i leoedd tebyg yn effeithiol. Mae cannoedd o deuluoedd yn cyfnewid eu cartrefi trwy ddefnyddio'r gwasanaeth bob mis.

Sut medra'i ddod o hyd i le tebyg?
Gall y safle roi diweddariadau a lleoedd tebyg sy'n bosib trwy e-bost, neges destun neu i'ch cyfrif ar-lein. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim, yn hawdd ac yn ddiogel trwy'r wefan yn http://www.homeswapper.co.uk. Gellir cofrestru trwy lenwi ffurflen gais sydd ar gael trwy alw yn eich swyddfa leol neu trwy ffonio 01792 488288.

Mae rhestrau argraffedig ar gael yn ein swyddfeydd lleol hefyd. Mae'r rhestrau yn cael eu diweddaru bob mis.
Sut medra'i ddechrau?
Am fwy o wybodaeth ewch i'r dudalen Cwestiynau a Ofynnir Amlaf yn http://www.homeswapper.co.uk/links/faqs.asp neu cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cartrefi Newydd.