Lenka Makivic

Lenka Makivic yw'r Gwirfoddolwr Preswyl sy'n cynrychioli preswylwyr sy'n byw yn ardal Castell Nedd a phreswylwyr o gefndir Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig.
Mae Lenka yn byw yn Aberdulais ac felly mae hi wedi ei lleoli'n dda i gynrychioli ardal Castell Nedd. Yn ogystal mae hi'n dod o gefndir cymysg ac mae ganddi wybodaeth go iawn o wahanol ddiwylliannau a chrefyddau. Mae hi'n awyddus felly i gynorthwyo pobl o wahanol gefndiroedd a hiliau er mwyn iddynt fanteisio'n llawn ar y gwasanaethau mae Gwalia yn darparu.
Yn ogystal â bod yn Wirfoddolwr Preswyl, mae Lenka yn Gadeirydd y Grup Anabledd ac yn aelod gweithredol o'r Bartneriaeth Preswylwyr.



