Gwirfoddolwyr Preswyl
Mae ein cynllun Gwirfoddolwyr Preswyl (a alwyd gynt yn Gynllun Tenantiaid Allweddol) wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus ers 2001 ac ar hyn o bryd mae gennym bum Gwirfoddolwr Preswyl sy'n gweithredu ar draws pedair ardal ddaearyddol a dwy ardal arbenigol.
Rôl y Gwirfoddolwyr Preswyl yw creu cyswllt rhwng Gwalia a thenantiaid: caiff y rôl ei chydnabod gan Tai Cymdogaeth a staff Gwalia ac mae'r Gwirfoddolwyr Preswyl yn gallu siarad gyda nhw ar eich rhan i geisio datrys unrhyw broblemau sydd gennych ynghylch y gwasanaethau mae eich landlord yn darparu.
Maent yn:
- Helpu tenantiaid eraill i gynrychioli safbwyntiau'r gymuned maent yn byw ynddi
- Ymroddedig i wella cyfathrebiad rhwng tenantiaid a landlord
- Deall materion sy'n wynebu tenantiaid a phreswylwyr
- Gweithredu'n amhleidiol i helpu tenantiaid i ddelio â phryderon sydd ganddynt am wasanaethau a ddarperir gan Tai Cymdogaeth.
Mae cyfraniad Gwirfoddolwr Preswyl wedi arwain at:
- Gwasanaeth cynnal a chadw mwy effeithlon
- Cyfraniad tenantiaid gyda dyluniad y Ffurflen Cais am Dai
- Cyfraniad tenantiaid i ddarganfod meysydd i'w blaenoriaethu er mwyn gwneud gwelliannau
- Cymryd rhan ym mhroses recriwtio Uwch Staff Tai Cymdogaeth
Am fwy o wybodaeth am Wirfoddolwyr Preswyl, cliciwch ar eu henwau isod:
Gwirfoddolwyr Preswyl ar gyfer meysydd Daearyddol:
- Peter Thorne - Sir Gar
- Helen Morris-Guy- Dwyrain Abertawe
- Jim Groucott - Rhaeadr Gwy, Porth a Phenarth
- Lenka Makivic - Castell Nedd
- Gerald Powell - Gorllewin Abertawe
Gwirfoddolwyr Preswyl ar gyfer meysydd Arbenigol:
- David Butterworth - Pobl dros 55
- Lenka Makivic - Du ag Ethnig Lleiafrifol
- Paul Pridmore - Materion Anabledd a Symudedd
Os hoffech chi wybodaeth am ble mae Gwirfoddolwyr Preswyl yn gweithredu, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cynrychioli eich ardal, cysylltwch â Amanda Roberts, Gweithiwr Cymunedolyn Swyddfa Ffordd y Brenin ar 01792 460609 neu drwy e-bost .
*Mae'r Gwirfoddolwyr Preswyl yn gweithio ar sail wirfoddol ac ni chânt eu cyflogi gan Grwp Gwalia Cyf".
>


