Archif Newyddion
Croeso i Archif Newyddion Tai Cymdogaeth. Dewiswch un o'r cysylltiadau isod os gwelwch yn dda.
Cliciwch ar gysylltiad isod am ragor o wybodaeth
O ganlyniad i Arolwg Gwerth Gorau, mae Tai Cymdogaeth yn cefnogi cynllun newydd Cynnwys Cartrefi Tenantiaid o’r enw ‘My Home’. Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu gan Risgiau Tenantiaid Jardine Lloyd Thompson (JLT) mewn cysylltiad â’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Chartrefi Cymunedol Cymru.
Mae’n hanfodol bwysig i ystyried cael yswiriant cynnwys cartref i ddiogelu eich pethau. Gall tân, llifogydd neu fyrgleriaeth gael effaith dinistriol ar fywydau pobl, yn enwedig os oes rhaid prynu pethau yn lle’r eitemau sydd wedi eu colli neu eu torri a’ch bod yn ennill incwm isel.
10 rheswm am ddewis y cynllun yswiriant cynnwys My Home
●Opsiynau talu rheolaidd, hyblyg, fesul tipyn
● Dim ffwdan, yn gyflym ac yn hawdd gwneud cais un ai trwy’r post neu ar y ffôn
● Dim tâl dros ben (ni fydd rhaid i chi dalu’r rhan gyntaf o’r cais)
● Yn cynnwys lladrad, difrod dŵr a thân.
● Yn cynnwys difrod i addurniadau mewnol
● Yn cynnwys difrod damweiniol i ffitiadau glanweithdra megis toiledau a basnau
● Yn cynnwys difrod i wydr allanol rydych chi’n gyfrifol amdano
● Yn cynnwys allweddi wedi’u colli neu wedi’u dwyn a chynnwys rhewgell
● Nid oes rhaid i chi gael cloeon arbennig ar gyfer y drysau neu’r ffenestri
● Mae pob côd post yn gynwysedig



