Beth yw niwsans?

Pa fath o ymddygiad sy’n dor - tenantiaeth?

Nid oes rheolau pendant i’w cael yn ei gylch. Gall yr un ymddygiad fod yn rhesymol neu’n afresymol - mae’n dibynnu os ceir ei wneud yn ormodol neu ar adegau afresymol. Hefyd, nid yw niwsans yn rhywbeth byddwch chi’n bersonol ddim yn hoffi - mae’n rhywbeth na fyddai person rhesymol yn ei wneud, yn gyson neu’n ormodol.
 
 
 
Enghreifftiau o niwsans posibl
  • sŵn cerddoriaeth neu deledu uchel iawn ar unrhyw bryd o’r neu yn arbennig yn hwyr yn y nos
  • partïon swnllyd ac ymwelwyr swnllyd
  • sgrechian, gweiddi, ymladd - tu fewn neu du allan yr eiddo
  • difrodi ein heiddo ni neu eiddo pobl arall
  • tresmasu gerddi pobl eraill – er enghraifft, plant yn mynd i mewn i erddi pobl eraill i nôl eu pêl
  • cam-drin geiriol a bygythiadau
  • taflu sbwriel yn eich gardd neu ar dir cymunedol
  • gwneud coelcerth yn agos i ffens, neu losgi defnydd gwenwynig
  • cŵn yn crwydro heb eu harolygu, yn baeddu ac yn cyfarth yn barhaus
  • rasio o gwmpas yr ystâd ar feiciau llwybr neu gwad, gyrru’n beryglus
  • caniatáu plant i chwarae heb eu harolygu mewn ffordd beryglus, taro peli caled yn erbyn ceir a ffenestri tenantiaid eraill, rhwystro’r ffordd gyda rampiau sgrialu
     
 
Beth na fydd yn cael ei ystyried yn niwsans?
  • plant yn gwneud sŵn wrth chwarae yn ystod y dydd ar y safle neu yn eu gerddi eu hunain
  • plant yn ffraeo, yn galw enwau ar ei gilydd neu fwlio
  • sŵn domestig megis symud dodrefn, sŵn cerdded, tapiau’n llifo, drysau’n cau, defnyddio peiriannau domestig
  • ffraeau personol gyda chymdogion
  • parcio anystyriol
  • barbeciwio neu gynnau coelcerth
  • cael trampolîn yn eich gardd eich hunan
  • cathod yn crwydro
Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.