Swyddog Rheoli Cymuned

Mae gennym 5 Swyddog Rheoli Cymuned sy'n gweithredu ar ein hystadau yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Chastell Nedd.
Eu rôl yw bod yn bresenoldeb gweladwy a rheolaidd ar y safleoedd hyn. Maent yn gofalu am gyflwr yr ardal ac yn sicrhau bod materion amgylcheddol, megis cael gwared â sbwriel, cerbydau wedi'u gadael, diffyg atgyweirio, eiddo wedi eu gadael yn wag, gerddi anniben, graffiti a fandaliaeth yn cael eu trin yn ddi-oed.
Medrwch fynd atynt a thrafod yn hollol gyfrinachol unrhyw un o'r materion hyn neu broblemau cymdogion, sŵn, melltith pobl ifanc neu jolihoetio.
Yr Uwch Swyddog Rheoli Cymuned yw Phil Kerrison a'r Swyddogion Rheoli Cymuned yw Carl Watkins, Annie Woods, Jackie Boakes a Greg Miller.



