Cymdogion sy'n Niwsans
Mae Tai Cymdogaeth yn ymroddedig i sicrhau bod tenantiaid a phreswylwyr yn gallu byw yn y cartref neu'r fflat heb ddioddef aflonyddwch a phroblemau.
Rydym yn disgwyl i bob tenant gynnal ei denantiaeth mewn ffordd sydd ddim yn achosi niwsans neu flinder i erailll.
Rydym yn cydnabod bod niwsans a dadleuon gyda chymdogion yn gallu cael effaith sylweddol ar ansawdd eich bywyd. Mae gennym Bolisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol effeithiol ac mae ein tîm Swyddog Rheoli Cymuned yn bresennol ar ein stadau.
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn broblem sy'n cynyddu a byddwn yn ceisio gwneud popeth yn ein gallu i ddelio ag ef.
Medrwch gysylltu â'r Tîm Rheoli Tenantiaeth i drafod, yn hollol gyfrinachol, unrhyw broblemau sydd gennych chi neu gallwch ddweud am broblem drwy gwblhau ein ffurflen ar-lein.



