Drwy Ddebyd Uniongyrchol
Os oes gennych chi gyfrif banc, gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Gallwch ddewis talu:
- Yn wythnosol - byddwn yn trefnu i dynnu allan eich arian rhent bob dydd Llun.
- Bob pythefnos - byddwn yn trefnu i dynnu allan eich arian rhent bob pythefnos o'r dydd Llun hoffech i'r taliadau ddechrau.
- Bob mis - byddwn yn trefnu i dynnu allan eich arian rhent bob mis ar y 1af, ail, 3ydd, neu 4ydd dydd Llun o'r mis
I dalu drwy ddebyd uniongyrchol, dylech:
- Lawrlwytho'r ffurflen Debyd Uniongyrchol
- Dychwelyd y ffurflen i ni
Mae gennych yr hawl i ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu i'ch banc neu gymdeithas adeiladu (hefyd, anfonwch gopi i ni os gwelwch yn dda). Wedyn, bydd rhaid i chi drefnu dull arall o dalu.



