Budd-dıl Tai

Os ydych chi’n ennill incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau, mae’n bosib bod gennych hawl i Fudd-dâl Tai i’ch helpu chi i dalu eich rhent.

I hawlio Budd-dâl Tai mae angen i chi lenwi ffurflen gais Budd-dâl Tai, a ddarperir gan adran Budd-dâl Tai eich cyngor lleol. Gall ein Tîm arbenigol Rheoli Incwm neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth eich helpu i lenwi’r ffurflen hon a rhoi unrhyw gyngor y bydd angen arnoch. Fel arall medrwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau ar-lein- y cyfan sydd angen gwneud yw llenwi eich manylion er mwyn cyfrif pa fudd-daliadau sy’n hawliadwy.
 
Dylid defnyddio’r Budd-dâl Tai yn UNIG i dalu eich rhent ac nid ar gyfer unrhyw bwrpas arall. Gall methiant i drosglwyddo Budd-dâl Tai arwain at achos cyfreithiol gyda’r canlyniad o golli eich cartref.
 
Os ydych chi’n gymwys i gael Budd-dâl Tai mae rhai pethau i’w cofio
  • Mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr adran Budd-dâl Tai a ni os oes gennych unrhyw newid yn eich amgylchiadau, er enghraifft os
 
• bydd plentyn yn cyrraedd 18 oed
• oes unrhyw un yn symud i mewn neu allan o’ch cartref
• ydych chi’n dechrau gwaith llawn/rhan amser
• ydych chi’n newid o un budd-dal i un arall e.e. Lwfans Ceisio Gwaith i Fudd-dâl Analluogrwydd.
 
  • Mae’n rhaid i chi ateb pob llythyr a gewch o’r cyngor.
  • Gall unrhyw oedi mewn ateb y llythyron olygu eich bod yn colli eich budd-dâl a chael ôl-ddyledion ar eich cyfrif rhent.
  • Mae’n rhaid llenwi ceisiadau adolygu yn gyfan.
  • Os yw eich Budd-dâl Tai yn dod i ben, yna chi fydd yn gyfrifol am dalu’r rhent cyfan am eich eiddo.
 
Talu Budd-dâl Tai i’ch landlord
Medrwch un ai
  • Ddweud wrth eich cyngor lleol i dalu eich Budd-dâl Tai yn uniongyrchol i ni trwy lenwi’r adran berthnasol ar y ffurflen Budd-dâl Tai. Mae’r mwyafrif o’n tenantiaid yn cael hwn i fod y ffordd rwyddaf o dalu’r rhent os ydynt yn cael rhan neu’r cyfan o’r Budd-dâl Tai.
Neu
  • Medrwch ofyn i gael y Budd-dâl Tai wedi ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc/Swyddfa Bost.
     
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw Fudd-dâl Tai a gewch i’ch landlord.
Dylid nodi bydd Budd-dâl Tai yn cael ei dalu o’r dyddiad byddwch yn symud i mewn i’r eiddo yn unig.
Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.