Datganiad Ar-lein
Mae ein cyfleuster datganiad ar-lein yn galluogi holl denantiaid Tai Cymdogaeth i gael mynediad i Ddatganiad Cyfrif Rhent diweddar ar-lein.
Mae'r Datganiad Rhent Ar-lein yn hollol ddiogel a dim ond chi fel tenant sy'n gallu ei weld. Bydd yn dangos eich holl daliadau rhent a’r swm sydd arnoch ar ddiwedd cyfnod y datganiad. Er mwyn cael mynediad i'ch datganiad rhent, mae angen i chi gael enw defnyddiwr a chyfrinair. I'w cael, ebostiwch neu ffoniwch eich Swyddog Rheoli Rhent ar 01792 488288.
Noder: Caiff y Datganiadau Rhent eu diweddaru ar ddiwedd pob wythnos - felly gallai gymryd hyd at 7 diwrnod o'r amser a ofynnoch i fewngofnodi nes i chi fedru gweld eich datganiad ar-lein.
Os oes gennych chi eich enw defnyddiwr a chyfrinair yn barod mewngofnodwch nawr.



