Talu eich Rhent

Mae nifer o ffyrdd i dalu eich rhent, yn syml, dewiswch y ffordd fwyaf cyfleus i chi.

Mae ein cyfleuster Datganiad Rhent Ar-lein yn eich galluogi chi i weld datganiad rhent diweddar. Edrychwch ar eich Datganiad Rhent Ar-lein nawr.
 
Mae'r Tîm Rheoli Rhent yn dîm arbenigol, sy'n delio gyda rhent, ôl-ddyledion a thaliadau gwasanaeth. Cysylltwch â nhw ar 01792 488288 os oes angen cyngor arnoch ynghylch eich rhent neu daliadau gwasanaeth.
 
Mae gweithiwr Budd-daliad Tai Shelter Cymru hefyd ar gael i roi cyngor annibynnol i chi am fudd-daliadau tai a lles. Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalen Cyngor Budd-daliadau.
 
 
Gallech ennill £500!
Pob chwarter byddwn yn gwobrwyo dau denant lwcus gyda £500 am gael cyfrif rhent clir. Does dim gwahaniaeth sut rydych chi'n talu eich rhent, pa un ai drwy fudd-daliad tai, debyd uniongyrchol neu drwy ddefnyddio cerdyn talu - bydd pawb sydd â chyfrif rhent clir yn cael cyfle i ennill.
Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.