Hyd Amserau Atgyweirio

Blaenoriaeth y gwaith
Amser targed
Enghreifftiau
Argyfwng
Ystyrir atgyweiriadau yn argyfwng pan fod iechyd a diogelwch pobl mewn
perygl difrifol, neu os byddai methu trin ag atgyweiriad yn achosi difrod mawr i’r eiddo. Yn aml bydd hwn yn golygu gwneud yn ddiogel ac yna gwneud gwaith pellach os oes angen.
 
hyd at 24 awr
gollyngiad nwy, piben wedi byrstio ac ni ellir troi’r dŵr i ffwrdd, colled llwyr o drydan (nad achoswyd gan un o’ch dyfeisiau chi sydd wedi tripio’r cyflenwad trydan), draen neu dŷ bach blociedig, llifogydd yn eich cartref, pethau diogelwch difrifol yn bod gyda’ch drws neu ffenestri, dim gwres neu ddŵr poeth yn ystod cyfnodau o dywydd oer, difrod i strwythur yr eiddo, difrod a achoswyd gan dân
 
Brys
Atgyweiriadau a all effeithio sut byddwch yn defnyddio eich cartref neu ei gyfleusterau. Maent yn effeithio eich cysur neu eich cyfleustra ond nid
ydynt yn creu perygl.
 
3 diwrnod gwaith
gwres neu ddyfeisiau dŵr poeth yn methu, gollyngiadau yn y plymwaith a’r falfiau pêl neu golled rhannol y cyflenwad dŵr, ffan wagio wallus yn y gegin neu’r ystafell ymolchi, systemau dod i mewn gwallus, problemau sy’n achosi lleithder difrifol, erial teledu a rennir sy’n ddiffygiol (os ceir ei ddarparu gennym ni), difrod i’r grisiau a’r anllawiau, difrod i’r llawr a fyddai’n achosi risg iechyd a diogelwch bychan i breswylwyr
 
Angenrheidiol
Atgyweiriadau a all aros heb gael effaith difrifol arnoch chi neu’r adeilad.
 
15 diwrnod gwaith
addasiad i’r drws mynediad ffrynt neu gefn, atgyweiriadau
bychan i’r llawr (os nad ydynt yn berygl mawr i’r preswylwyr), atgyweiriadau dydd i ddydd i’r cwteri, toeau a’r muriau allanol, atgyweiriadau i’r gegin a’r ystafell ymolchi, gwaith bychan i’r bricwaith allanol a’r rendrad neu’r plaster mewnol
 
Arferol
Atgyweiriadau nad oes angen eu gwneud fel blaenoriaeth brys.
 
30 diwrnod gwaith
astell dywydd wedi pydru, difrod i’r cwteri a pheipiau dŵr, ffensys neu giatiau wedi torri, problemau draenio yn yr ardd
 

Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.