Grant Addasiad Ffisegol
Beth i wneud nesaf?
Opsiwn 1 Gwneud y gwaith eich hunan
- Byddwch yn trefnu i wneud y gwaith eich hunan
- Bydd angen i chi ysgrifennu atom i ofyn am ganiatâd i wneud y gwaith.
- Byddwn yn ateb eich cais i wneud y gwaith yn eich cartref. Fel arfer rhoddir caniatâd os dilynir nifer o ganllawiau.
Opsiwn 2 Gwneud Cais am Grant Addasiad Ffisegol
- Byddwn yn gwneud cais ar eich rhan i’r Cynulliad am Grant Addasiadau Ffisegol (GAF).
- I fedru gwneud cais mae’n rhaid i ni gael adroddiad therapydd galwedigaethol er mwyn gwneud cais am GAF.
- Medrwch gysylltu â’ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol lleol i ofyn am ymweliad therapydd galwedigaethol i asesu pa waith sydd angen ei wneud i fod yn addas ar gyfer eich anabledd.
- Wedyn dylai’r therapydd galwedigaethol anfon adroddiad atom i nodi’n fanwl y cyfarpar/addasiad argymelledig.
- Wedyn byddwn yn trefnu i gael syrfëwr i roi lluniau a phrisiau a’u cyflwyno i’r Cynulliad.
- Bydd y syrfëwr yn trefnu unrhyw ymweliad(au) angenrheidiol gyda chi.
- Os a phryd ceir cymeradwyaeth oddi wrth y Cynulliad, byddwch yn cael manylion pellach ynghylch pa gontractwr bydd yn gwneud y gwaith a phryd bydd y gwaith yn debygol o ddechrau.
- Gall y broses gymryd hyd at 6/8 mis.
Opsiwn 3 Mân Addasiadau
- Mewn rhai achosion , gall Gwalia drefnu mân addasiadau i fyny at werth penodol, yn amodol ar argymhelliad eich doctor, gweithiwr cymdeithasol neu ymwelydd iechyd. Byddai hwn yn berthnasol i ganllawiau, cawod dros fath ayyb.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ynghylch yr uchod, ffoniwch 01792 460609 est. 2618 neu ebostiwch Datblygu Eiddo a Rheoli.



