Partneriaeth Preswylwyr
Hanes
Yn dilyn y cytundeb tenant 'Adeiladu Partneriaethau Cymunedol' a luniwyd yn 2001, penderfynnodd y Bartneriaeth Preswylwyr ar ddull newydd o gyflwyno cyfranogiad preswyliwr. Cynhaliwyd y lansiad swyddogol yn Theatr y Grand, Abertawe ym mis Ionawr 2004 a daeth preswylwyr o mor bell â chanolbarth Cymru i fynychu'r digwyddiad.
Etholwyd Helen Williams yn Gadeirydd yn y lansiad, ac mae hi wedi cael ei hail-ethol ers hynny. Mae Helen, o'r Gelli Fedw, hefyd yn aelod o Gynllun Gwirfoddolwr Preswyl Tai Cymdogaeth ac yn Brown Owl gyda'r Geidiaid DU yn ardal y Gelli Fedw.
Mae cymryd rhan yn y bartneriaeth yn cynnwys mewnbwn i eitemau agenda Bwrdd Tai Cymdogaeth a fydd yn helpu Tai Cymdogaeth i dargedu ei adnoddau er mwyn rhoi sylw i faterion sy'n effeithio'r preswylwyr i gyd.
Nod y Bartneriaeth Breswyl yw:
- Dod a phreswylwyr sydd â diddordeb at ei gilydd i hybu cyfranogiad o fewn Grwp Tai Gwalia
- Hyrwyddo hawliau ac oblygiadau preswylwyr mewn perthynas â chynnal a chadw a gwella cyflwr eu tai, eu cyfleusterau a'u hamgylchedd.
- Creu fforwm ar gyfer ethol preswylwyr i Fwrdd Gwalia.
- Trefnu cyfarfodydd i drafod eitemau ar agenda cyfarfod y Bwrdd a chynig awgrymiadau ac argymhellion i'r aelodau preswyl a etholwyd i'w cyflwyno i'r Bwrdd.
- Helpu i gynhyrchu cylchgrawn chwarterol Tai Cymdogaeth -- News 'n' Views
- Cyfrannu mewn monitro ac arolygu gwelliannau parhaol y Grwp
- Cael mewnbwn a helpu gyda gweithgareddau cymunedol a phreswylwyr a gaiff eu cynnal gan y Grwp
Os hoffech wybod mwy am y Bartneriaeth Preswylwyr, edrychwch ar yr Agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf neu ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.
Am fwy o wybodaeth am y Bartneriaeth Preswylwyr, gan gynnwys sut fedrwch chi gymryd rhan, cysylltwch â Amanda Roberts, Gweithiwr Cyswllt Cymunedol, ar 01792 460609 neu 07816 937468 neu drwy e-bost.



