Cytundeb Tenantiaeth

 

Pan fyddwch yn rhentu cartref gyda Tai Cymdogaeth, bydd gofyn i chi arwyddo Cytundeb Tenantiaeth. Mae'r cytundeb hwn yn gytundeb cyfreithiol-rwymol a dylech ei ddarllen yn fanwl. Os ydych chi'n darganfod unrhyw beth rydych yn ansicr ohono, cysylltwch â'ch Ymgynghorydd Cartref Newydd.


Cychwynnol (Byrddaliad Aswiriedig)
 

Mae Tenantiaeth Gychwynnol (Byrddaliad Aswiriedig)
  • am gyfnod profi o 12 mis
  • yn mynd yn Denantiaeth Aswiriedig llawn yn awtomatig ar ôl 12 mis os na fu unrhyw broblemau ynghylch rheolaeth y denantiaeth
 
Mae gan denant cychwynnol hawliau tebyg i denant aswiriedig ond gyda’r eithriadau canlynol yn ystod y cyfnod profi o 12 mis
  • dim hawl i gyfnewid y denantiaeth gydag unrhyw un arall
  • dim hawl i drosglwyddo’r denantiaeth oni bai mewn amgylchiadau arbennig
  • dim hawl i brynu’r eiddo o dan yr Hawl i Gaffael
 
 
Mae gan bob tenant yr hawl i
  • apelio yn erbyn ein penderfyniadau
  • arfer ei hawliau cyfreithiol fel tenant
 
Tenantiaeth Aswiriedig
 
Mae Tai Cymdogaeth yn ymroddedig i sicrhau bod pob tenant yn mwynhau'r un hawliau ble bynnag sy’n bosibl ac wedi mabwysiadu gofynion Y Warant i
Breswylwyr Cymdeithasau Tai i gyd. Mae gan denantiaid aswiriedig hawliau sy’n cynnwys yr hawl i
• aros yn eich cartref
• olyniaeth
• atgyweiriadau
• wneud gwelliannau
• gadw lletywr ac isosod
• wybodaeth
• fynediad i wybodaeth
 
Mae tenantiaid aswiriedig yn talu rhent fforddiadwy a osodir gan Grŵp Gwalia.
 
Nid oes gan denantiaid aswiredig yr hawl i brynu ond mae cynlluniau ar gael sy’n eich galluogi i brynu'r cartref yr ydych yn byw ynddo.
 
Mae gan rhai tenantiaid yr ‘Hawl i Gaffael’ yr eiddo.


Enghraifft o Gytundeb Tenantiaeth

Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.