Asiantaeth Gofal Ychwanegol Tai Cymdogaeth
Mae Tai Cymdogaeth yn darparu gwasanaeth gofal cartref dwys 24 awr i breswylwyr sy'n byw yn Llys y Werin, Gorseinon a Phlas y Môr, Porth Tywyn. Mae preswylwyr sy'n derbyn y gwasanaeth yn byw mewn fflatiau cyffredin mewn cymuned fywiog gyda phobl hwn eraill sydd efallai mewn angen cymorth neu beidio, i fyw yn annibynnol. Ein nod yw gweithio gyda phreswylwyr i'w helpu i gynnal eu hannibyniaeth am mor hir â phosib yn eu fflatiau eu hunain
Helpu gyda meddyginiaeth
Coginio prydau o fwyd
Glanhau a golchi dillad
Cymryd bath neu gawod
Caiff y gwasanaethau hyn eu cyflawni gan gynorthwywyr gofal medrus yn fflat y preswyliwr
Sut gallaf gael y gwasanaeth hwn?
Bydd angen i chi wneud cais am dai gyda Tai Cymdogaeth. Unwaith eich bod ar y rhestr aros, byddwch yn gweld gweithiwr cymdeithasol a fydd yn ceisio darganfod os ydych yn gymwys am y gwasanaeth gofal ychwanegol a thrafod eich anghenion gyda'n rheolwr cynllun. Pan fydd lle yn dod ar gael, byddwch yn cael eich ystyried gan banel sy'n gweinyddu lleoedd gwag gofal ychwanegol.
Faint mae'n costio?
Gall taliadau newid, ond fel esiampl, yn 2009 rydym yn codi tâl o rhwng £80-£100 yr wythnos am rent a gwasanaethau a £30 yr wythnos am brydau o fwyd. Mae hwn yn cynnwys
- gwres
- dur poeth a
- trethi dur
ond nid yw'n cynnwys
- treth y cyngor
- trydan
- biliau ffôn
- brecwast a swper
Hefyd, mae'n bosib bydd rhaid i chi dalu tâl cynnal o dua £10 yr wythnos; fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys am Grant Cefnogi Pobl a fyddai'n talu'r gost hon.
Mae un pryd o fwyd y dydd yn cael ei gynnwys yn eich rhent. Hefyd gall ein tîm eich helpu chi i goginio eich bwyd yn eich cartref eich hun.
Byddwn hefyd yn codi tâl gofal/domestig o dua £50 yr wythnos.
Cofrestrwyd Tai Cymdogaeth gyda'r Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC) fel Asiantaeth Gofal Cartref yn 2005. Ymwelwch â gwefan Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC):
- Edrychwch ar ein hadroddiad arolygu diweddaraf
- Gwnewch gwyn/anfonwch gwyn ynglwn â'n gwasanaethau a fyddai'n well gennych fynd yn uniongyrchol at yr arolygwr
- Edrychwch ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Asiantaethau Gofal yn y Cartref yng Nghymru.
A fyddech chi'n hoffi gweithio gyda Gofal Ychwanegol Tai Cymdogaeth?
Croesawn geisiadau gan weithwyr sesiynol i gymryd lle staff sy'n absennol yn ystod y flwyddyn. Mae Tai Cymdogaeth yn cynnig yr holl fanteision o weithio mewn sefydliad elusennol mawr, mewn amgylchedd gwaith dymunol a chyfeillgar, yn ogystal â rhaglen hyfforddi gynhwysfawr sy'n cynnwys astudio ar gyfer NVQs.
Einon Court
Glanafon
Llys Dewi Sant
Parklands Court
Pont Aur
Robert Davies Coutt
Tw Mawr
Ynysderw House



