Cynllun Cymhelliant i Denantiaid

Ar hyn o bryd, mae gan Tai Cymdogaeth gynllun ble caiff £100 ei wobrwyo i bob cartref sy'n gorffen tenantiaeth yn berffaith!

Pan ddewiswch roi terfyn i'ch tenantiaeth, yr unig beth sydd angen i chi wneud i gael eich £100 yw:

  • Cael cyfrif rhent clir
  • Rhoi 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig
  • Dychwelyd eich allweddi erbyn y dyddiad terfyn y tenantiaeth
  • Darparu cyfeiriad anfon ymlaen
  • Gadael tu fewn a thu allan eich anheddau mewn cyflwr glân ac yn glir o unrhyw eiddo.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lynne Murphy ar 01792 488288.

Text to speech screen reading accessibility. Click to listen to website.